#WeShallNotBeRemoved

English

Cynghrair celfyddydau anabledd y DU yw #WeShallNotBeRemoved a ffurfiwyd fel ymateb brys i’r pandemig.

Mae #WeShallNotBeRemoved yn fforwm i eirioli, i ymgyrchu a chefnogi ymarferwyr a sefydliadau creadigol B/byddar, niwroamrywiol ac anabl trwy ac ar ôl Covid19. Nodau’r gynghrair yw:

  • Sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y celfyddydau anabledd a chynhwysol yn y DU trwy’r pandemig ac ar ôl hynny
  • Chwyddo lleisiau ymarferwyr creadigol B/byddar, niwroamrywiol ac anabl a sefydliadau celfyddydau anabledd ar adeg o argyfwng i’r celfyddydau ac i bobl anabl

Mae aelodaeth #WeShallNotBeRemoved yn rhad ac am ddim, yn agored i bob ymarferydd creadigol B/byddar, niwroamrywiol ac anabl a sefydliadau sy’n canolbwyntio ar anabledd sy’n gweithredu yn niwydiannau creadigol y DU. O fewn mis i ffurfio’r gynghrair mae wedi denu dros 400 o aelodau.

Cysylltwch ag unrhyw un o’n cysylltiadau cofrestru ar ein tudalen ‘Ymuno â Ni’, a byddwn yn eich gwahodd i ymuno â’n sianel Slack ar-lein.

Os ydych chi’n cael unrhyw anhawster gyda’r broses cofrestru, anfonwch e-bost i weshallnotberemoved@gmail.com a byddwn yn ceisio i’ch helpu. Rydym yn cydnabod na fydd ein fforwm Slack yn hygyrch i bawb sy’n dymuno cymryd rhan ond rydym wrthi’n chwilio am ffyrdd i wella ein hygyrchedd.